Shwmae,
Fe sylwais i ar ambell i olygiad a wnaethoch i unigolion, yn benodol i’r disgrifiad Cymraeg. Fe welaf fod y rhan helaeth o’r rhain yn ychwanegu disgrifiad lle nad oedd un eisoes, ond mewn sawl achos roedd y disgrifiad newydd yn amnewid y disgrifiad cyfredol am un oedd â llai o wybodaeth ynddi (e.e. John Charles McLean (Q108525988)).
A alla i awgrymu y dylid gwirio fod y disgrifiad Cymraeg yn wag cyn ychwanegu un newydd algorithmig? Diolch!